Alison Caffyn
Mae Alison yn ymgynghorydd twristiaeth profiadol sydd yn arbenigo mewn:
- Datblygu a Rheolaeth Twristiaeth
Ysgrifennu strategaethau twristiaeth o’r newydd, datblygu cynnyrch twristiaeth newydd ac ymateb i heriau rheolaeth ymwelwyr.
- Adfywio Gwledig a Threfi Marchnad
Integreiddio twristiaeth fel rhan o strategaethau adfywio neu gwella’r cynnig a chroeso i ymwelwyr mewn trefi marchnad.
- Twristiaeth Cynnaliadwy
Annog busnesau twristiaeth i fod yn fwy ‘gwyrdd’ gan ddatblygu mathau cynnaliadwy o dwristiaeth, cludiant twristiaeth mwy gwyrdd a’i marchnata.
- Hamdden Allanol
Datblygu a marchnata gwyliau cerdded, beicio a marchogaeth, gwneud y mwyaf o hawliau mynediad, rheoli gwrthdaro a sgîl effeithiau hamdden.
- Cyd-ymddibynniaeth Gwledig a Threfol
Cryfhau cysylltiadau rhwng trefi a chefn gwlad, twristiaeth trefol-gwledig, tripiau hamdden a phatrymau gofodol.
- Twristiaeth ‘Araf’
Y tueddiad diweddar tuag at twristiaeth sy’n cysylltu pobol, ardaloedd, treftadaeth, bwyd a’r amgylchedd.
Mae Alison wedi ei lleoli ar ffiniau Sir Henffordd a Sir Amwythig gan fod mewn pellter cyrraedd hawdd i Gymru a Chanolbarth Gorllewinol Lloegr. Bu Alison yn gweithio ym meysydd ymchwil a datblygu ar gyfer dau Fwrdd Croeso Rhanbarthol, fel swyddog datblygu twristiaeth mewn awdurdod lleol ac fel darlithydd twristiaeth ym Mhrifysgol Birmingham. Mae gan Alison bron i ddeng mlynedd o brofiad ymgynghorol gan weithio i ystod o gleientiaid yn cynnwys Advantage West Midlands, Asiantaeth yr Amgylchedd, nifer o awdurdodau lleol, Parc Cenedlaethol Swydd Efrog a’r Undeb Ewropeaidd yn ogystal a busnesau unigol a phartneriaethau twristiaeth lleol. Mae ganddi ddiddordeb penodol mewn dulliau gweithredu partneriaethau gan gynnwys cymunedau lleol a busnesau ym mhrosiectau adfywio a thwristiaeth.
Mae gan Alison radd mewn daearyddiaeth o Brifysgol Durham ac ôl radd yn nhwristiaeth a hamdden o Brifysgol Birmingham. Mae hi yn aelod o Bwyllgor Rhanbarthol Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghanolbarth Gorllewinl Lloegr a Bwrdd Partneriaeth AONB Mynyddoedd Sir Amwythig. Bu Alison yn aelod o’r Gymdeithas Dwristiaeth am 15 mlynedd ac yn aelod o’i Gr?p Ymgynghorwyr Twristiaeth sy’n gweithredu côd ymarfer da ar gyfer ymgynghorwyr.
