Welcome

Ffurfiwyd cwmni Old Bell 3 gan Gareth Williams ym mis Ebrill 2000 i ddarparu cefnogaeth ymgynghori ar faterion datblygu economaidd rhanbarthol a lleol i sefydliadau yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, gan weithio’n bennaf o fewn Cymru.

Rydym wedi ymgymryd ag ystod eang o waith, yn bennaf ym maes gwerthuso ar lefel Rhaglen a phrosiectau a datblygu strategaeth.

Mae ein gwaith Gwerthuso yn cynnwys nifer o astudiaethau sylweddol iawn ar gyfer Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, rhan o Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys y Diweddariadau Gwerthuso Canol Tymor o Raglenni Amcan 1, Amcan 3 a INTERREG IIIA Iwerddon - Cymru, astudiaeth o Arfer Da mewn Rheolaeth Prosiect a Gwerthusiad “Ymbarél” presennol o’r prosiectau Cronfa Strwythurol a gwblhawyd.
Mae detholiad o gleientiaid gwerthuso eraill wedi cynnwys:

  • Adran Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Llywodraeth Cynulliad Cymru (Gwerthusiad hir dymor o Rhaglen Cymraeg i Oedolion gyda Dateb); (Gwerthusiad hir dymor o’r Rhaglen Datblygu Gweithlu ‘Step Up’); (Gwerthusiad hir dymor o Strategaeth Sgiliau Sylfaenol Cymru gyda Miller Research); (Gwerthusiad Bwrsariaeth TAR a PCET); (Gwerthusiad o’r Cynllun Datblygu E-Ddysgu a Sgiliau TGCh gyda Dateb); (Gwerthusiad o Raglen Genedlaethol Hyfforddi Ymarferwyr a Chynllun Sabothol gyda Dateb); (Gwerthusiad o’r Cynllun Dysgu Dwyieithog gyda Dateb).
  • Adran yr Economi a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cynulliad Cymru (Gwerthusiad y Cynllun Twf Uchel); (Gwerthusiad Rhaglen Clystyrau Accelerate); (Gwerthusiad y Rhaglen Cefnogi Recriwtio); (Gwerthusiad Prosiectau Blas ar Fenter); (Gwerthusiad Arsyllfa Band eang Cymru);
  • Canolfan Cydweithredol Cymru (Gwerthusiad Cynllun Cymorth Busnes I Fentrau Cymdeithasol yng Nghymru);
  • Adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (ACHD) Llywodraeth Cynulliad Cymru (Gwerthusiad o Brosiectau Cronfa Hyrwyddo Cydraddoldeb);
  • Adran ‘DG Regio’ y Comisiwn Ewropeaidd (Asesiad ‘ex post’ o ail rownd Rhaglen Datblygu Cymunedol ‘URBAN II’ – mae Old Bell 3 yn arwain ar werthusiad o rhaglen URBACT;
  • Adran Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cynulliad Cymru (gwerthusiad tymor hir o’r Rhaglen Cymunedau@Ei Gilydd);
  • Rhwydwaith Cefnogaeth Cymunedau yn Gyntaf (gwerthusiad o’r Rhwydwaith a Chronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau’n Gyntaf);
  • TUC Cymru (Gwerthusiad o brosiect Cyfartal yn y Gweithle a ariannir gan EQUAL);
  • Uned Partneriaid Cymdeithasol Cymru (gwerthusiad o waith yr Uned);
  • Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (gwerthusiad o Brosiectau Meithrin Gallu Amcan 1);
  • Awdurdod Datblygu Cymru (gwerthusiad o’r Rhaglen Cefnogi Recriwtio a gwerthusiad o’r Rhaglen Blas ar Fenter);
  • Cyngor Sir Ynys Môn (Gwerthusiad o Grantiau Datblygu Busnes);
  • Cyngor Gwynedd (Gwerthusiad o gynllun Llwyddo’n Lleol);
  • Prifysgol Cymru, Casnewydd (gwerthusiad allanol tymor hir o brosiect Equinex)’
  • Cyngor Caerdydd (gwerthusiad o Amcan 2 a 3 yng Nghaerdydd)
  • Llywodraeth Ffrainc (Gwerthusiad Canol Tymor a Diweddariad Gwerthusiad Tymor Canol o’r Rhaglen URBACT gyda ECOTEC).

Mae Comisiynau Ymchwil, Polisi a Strategaeth wedi cynnwys:

  • Paratoi Adroddiad Blynyddol cyntaf Bwrdd Sgiliau a Chyflogaeth Cymru (ar gyfer BSCC/APDAGOS);
  • Astudiaeth ymchwil i effeithiau’r dirwasgiad ar draws Cymru a ffyrdd y gall awdurdodau lleol gefnogi adferiad economaidd cynaliadwy (CLlLC)
  • Ymgymryd ag ymchwil i bersbectif cyflogwyr i sut y mae cymorth Cyflogaeth a Sgiliau yn Integreiddio yng Nghymru);
  • Ymchwil i Brifathrawiaeth yng Nghymru (APDAGOS);
  • Astudiaeth Hyd a Lled Academi Gwyddoniaeth i Gymru (APDAGOS);
  • Ymchwil ac Ymgynghori ar Ddarpariaeth Cyllid i Fyfyrwyr yng Nghymru (APDAGOS);
  • Amryw brosiectau i ddarparu cyngor a chefnogaeth i Asiantaeth Datblygu Cynghorau Sector Sgiliau yng Nghymru, y Rhwydwaith Sgiliau am Fusnes (25 Cyngor Sector Sgiliau) ac yna Cynghrair y Sector Sgiliau yng Nghymru;
  • Amryw brosiectau ymchwil ac Adolygiadau Strategol i Gynghorau Sector Sgiliau Cymru, yn cynnwys SEMTA, Skillset a SkillsActive;
  • Cynghorau Sir Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn (Strategaeth Datblygu Gofodol Gogledd Orllewin Cymru);
  • Cynghorau Sir Gwynedd, Conwy, Ynys Môn a Dinbych (Fframwaith Gweithgareddau Cydgyfeirio’r UE 2007-13);
  • Cyngor Sir Ddinbych (Strategaeth Twf Economaidd 2007-13);
  • Ymchwil i Anghenion a Gofynion Sgiliau'r Sectorau Lletygarwch, Hamdden, Teithio a Thwristiaeth (LlHTT) (APDAGOS);
  • Ymchwil i gyfranogiad Plant a Phobl Ifanc yn Nghymru (APDAGOS).
hafan.........Cymraeg / English