Associates

CRG Research Cyf
www.crgresearch.co.uk

Mae CRG Research Cyf yn ymgynghoriaeth ymchwil a gwerthuso annibynnol seiliedig yng Nghymru a fu’n gweithio am bron bymtheg mlynedd mewn astudiaethau ac adolygiadau polisi proffil uchel ledled Prydain (ac weithiau tu hwnt).

Gyda thîm craidd o 18 o ymgynghorwyr a thua 20 o ymgynghorwyr cyswllt arbenigol, mae CRG wedi cwblhau ymhell dros 300 o astudiaethau gwerthuso ar gyfer sefydliadau yn cynnwys yr Adran Addysg a Sgiliau (DfES), yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), y Swyddfa Gartref, Gwasanaeth Carchar EM, y Gwasanaeth Cyflogaeth, y Weinyddiaeth Amddiffyn, y Cyngor Dysgu a Sgiliau, Cyngor Cyllid Addysg Bellach a Chyngor Cyllid Addysg Uwch, llawer o awdurdodau lleol, Investors in People (UK) ac eraill. Mae CRG wedi cynnal aseiniadau ar gyfer bron yr holl ‘chwaraewyr allweddol’ yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, yn cynnwys Awdurdod Datblygu Cymru, ELWa, Llywodraeth Cynulliad Cymru, consortiwm Sgiliau Dyfodol Cymru ac awdurdodau lleol. Mae gan CRG gysylltiadau gwaith da ledled Cymru ac maent yn deall y cyd-destun newidiol yng Nghymru yn dda

 

 

Hafan.........Cymraeg / English