Einir Burrowes - Dateb
einirb@dateb.co.uk
Einir Burrowes yw pennaeth Dateb. Mae ganddi MBA, ac mae’n siarad Cymraeg yn rhugl. Cyn ffurfio Dateb ym mis Ionawr 2002, bu ganddi swyddi uchel gyda ELWa, TEC Canolbarth Cymru a TEC Powys ac mae ganddi wybodaeth ymarferol dda o gyflwyno rhaglenni a materion gweithredol.
Mae ganddi brofiad helaeth o’r sector dysgu a bu ganddi swyddi uwch gyda ELWa, TEC Canolbarth Cymru a TEC Powys. Mae wedi cyflawni amrywiaeth o rolau yn cynnwys Cyfarwyddwr Rhanbarthol (Canolbarth Cymru), Pennaeth Strategaeth a Pholisi a Phennaeth Cyllid ac mae ganddi felly wybodaeth ymarferol dda o gyflwyno rhaglen a materion gweithredol.
Ers sefydlu Dateb, mae Einir wedi cynnal nifer o brosiectau ymchwil a gwerthuso, yn annibynnol ac mewn cysylltiad gydag Old Bell 3, gyda ffocws cryf ar ddysgu a sgiliau. Mae astudiaethau ar gyfer ELWa (bellach yr Adran Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau) yn cynnwys Gwerthusiad o Sgiliau Dyfodol Cymru, Astudiaeth o Gostau Darpariaeth Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg (fel rhan o dîm London Economics), gwerthusiad parhaus o Strategaeth Dysgu Ddwyieithog ELWa/yr Adran Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau) , Gwerthusiad o brosiect Rheoli Ffermydd gyda TGCh a Rhaglen ILT. Mae Dateb (gan weithio gydag Old Bell 3) wedi ennill contractau yn ddiweddar gan yr Adran Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau i gynnal gwerthusiad o Raglen Genedlaethol Hyfforddiant Ymarferwyr a gwerthusiad newydd o E-ddysgu.
Mae Einir hefyd wedi datblygu arbenigedd neilltuol yn rôl y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd. Bu’n rheolydd prosiect Diweddariad Gwerthuso Canol Tymor Amcan 3 ar gyfer Old Bell 3 (oedd yn cynnwys archwilio effaith y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd mewn rhaglenni Amcan 1 ac Amcan 3) a bu ganddi rôl flaenllaw yn y “Gwerthusiad Ymbarél” o Brosiectau Cronfa Strwythurol a gwblhawyd ar gyfer WEFO a gwerthusiad o brosiectau Ewropeaidd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru gyda Old Bell 3.
