Huw Bryer
huw@oldbell3.co.uk
Cefndir
Y mae Huw yn ymgynghorydd polisi a rheolwr prosiect profiadol ac yn bartner yn Old Bell 3 sy wedi ei leoli yn Llanarthne, Sir Gaerfyrddin. Y mae Huw yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, ac yn y gorffennol bu’n Gyfarwyddwr gyda Menter a Busnes (Asianataeth Menter Cymru gyfan), a chyn hynny bu’n Ymgynghorydd Hŷn gyda Newidiem. Rhwng 1997 a 2001, bu Huw yn gweithio i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fel Swyddog Polisi ar Faterion Economaidd, Gwledig, Ewropeaidd a Rhyngwladol oedd yn cynnwys ymchwilio, datblygu ac ymgynghori ar bolisi ar ran 22 awdurdod lleol Cymru a chynghori’r Ddirprwyaeth Gymreig i Bwyllgor Rhanbarthau’r UE. Cychwynodd Huw ar ei yrfa fel Swyddog Datblygu gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru. Rhwng 2003 a 2006 bu Huw yn aelod o Grwp Cynghorol (TAG1) i gynorthwyo WEFO wrth asesu ceisiadau Amcan Un am brosiectau Cymorth Busnes a Mentergarwch. Y mae hefyd yn gyfrannwr rheolaidd i newyddion BBC Cymru/Wales ar faterion Busnes ac Economaidd.
Addysg
Y mae Huw yn meddu ar radd BA(Anrh) mewn Busnes o Brifysgol Cymru, Caerdydd.
Profiad Ymgynghori
Y mae Huw wedi rheoli neu gyfrannu at ystod eang o aseiniadau ymgynghorol yn cynnwys gwerthusiadau cyfansymiol a ffurfiannol yn ogystal â phrosiectau datblygu strategaeth ac ymchwil ar draws ystod o ardaloedd polisi (yn cynnwys Mentergarwch a Chefnogaeth Busnes, Sgiliau, Cyflogaeth a Hyfforddi, Addysg, Ariannu Strwythurol yr UE, Datblygiad Cymunedol a Chynhwysiad Cymdeithasol, TGCh, Twristiaeth, Datblygiad Gwledig, Plant a Phobl Ifanc, Chwaraeon a Gweithgareddau Corfforol, yr Iaith Gymraeg a Chynllunio Gofodol). Y mae cleientiaid wedi cynnwys amryw o Adrannau Llywodraeth y Cynulliad, cynghorau lleol Cymreig, Prifysgolion, Cynghorau Sgiliau Sector a Chronfa’r Loteri Fawr.
Y mae’r prosiectau y bu Huw yn gweithio arnynt yn ddiweddar yn cynnwys:
- Gwerthusiad o’r Rhaglen Twf Uchel (AE&T)
- Astudiaeth ymchwil i effeithiau’r dirwasgiad ar draws Cymru a ffyrdd y gall awdurdodau lleol gefnogi adferiad economaidd cynaliadwy (CLlLC)
- Gwerthusiad o Rhaglen Cymorth Busnes i Fentrau Cymdeithasol yng Nghymru (Canolfan Cydweithredol Cymru)
- Adolygiad Strategol o SEMTA yng Nghymru (SEMTA)
- Gwerthusiad o Raglen Genedlaethol Hyfforddi Ymarferwyr a Chynllun Sabothol (APDAGOS)
- Ymchwil ac Ymgynghori ar Ddarpariaeth Cyllid i Fyfyrwyr yng Nghymru (APDAGOS);
- Gwerthusiad o rhaglen Accelerate Clusters (AE&T)
- Gwerthusiad o Arsyllfa Bandeang Cymru (AE&T)
- Ymchwil i fudd a hyd a lled Cyfraniad ymysg Plant a Phobl Ifanc mewn partneriaeth â chwmni Ymgynghori York (APDAGOS)
- Ymchwil i brifathrawiaeth yng Nghymru (APDAGOS)
- Paratoi Adroddiad Blynyddol cyntaf Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru (BCSC ac APDAGOS)
- Ymchwil i Integreiddio Cymorth Sgiliau a Chyflogaeth yng Nghymru (BCSC/APGADOS)
- Gwerthusiad Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf (Adran Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol)
- Datblygiad Fframwaith Hyfforddiant Cymru (Skillset Cymru)
- Ymchwil i Anghenion a Gofynion Sgiliau Cyflogwyr Diwydiant Gwesty, Hamdden, Teithio a Thwristiaeth (APDAGOS)
- Fframwaith Gweithgareddau Cydgyfeiriant yr UE Gogledd Orllewin Cymru (Cynghorau Sir Gwynedd, Ynys Môn, Conwy a Sir Ddinbych)
- Gwerthusiad o Raglen Cymraeg i Oedolion (APDAGOS)
- Gwerthusiad o Grantiau Datblygu Busnes (Cyngor Sir Ynys Môn)
- Gwerthusiad o Brosiect Addysg Drochi a Dysgu Dwys yr Iaith Gymraeg (APDAGOS)
- Gwerthusiad o brosiect Equinex ariannwyd gan EQUAL (Prifysgol Cymru, Casnewydd)
- Cefnogaeth a Hunan-asesiad o’r Rhaglen Y Ffordd o Fyw gyda Hall Aitken (Cronfa’r Loteri Fawr)
- Cefnogaeth cynllunio strategol i Gynghrair Cynghorau Sgiliau Sector yng Nghymru
- ‘Masterclass’ yr UE i Bartneriaeth Strategol Economaidd a Chyngor Sir Wiltshire

