Associates

Yr Athro Max Munday

Mae gan Max ddiddordebau ymchwil mewn economeg a pholisi rhanbarthol, economi Cymru, economeg mewnfuddsoddi ac economeg ddiwydiannol. Bu ganddo rôl flaenllaw yn y Diweddariadau Gwerthuso Canol Tymor o Amcan 1 ac Amcan 3 a chyfrannodd at y Gwerthusiadau Canol Tymor o Amcan 1, Amcan 3 ac INTERREG IIIA. Mae hefyd wedi cynnal gwaith prosiect ar gyfer amrediad o sefydliadau sector cyhoeddus yn cynnwys yr Undeb Ewropeaidd, yr Adran Diwylliant Cyfryngau a Chwaraeon, ESRC, y Comisiwn Coedwigaeth, Awdurdod Datblygu Cymru, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, Cyngor Sir Caerdydd, Cyngor y Celfyddydau a Chynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae wedi cyhoeddi mewn cyhoeddiadau economeg rhanbarthol a pholisi blaenllaw yn cynnwys yn fwyaf diweddar bapurau yn Regional Science, Regional Studies, Journal of International Business Studies, Environment and Planning A, Policy Studies, a’r Journal of Economic and Social Geography.

Mae Max yn cymryd rhan ar hyn o bryd mewn datblygu cyfrifon twristiaeth lloeren ar gyfer y Deyrnas Unedig a’i rhanbarthau, ac mewn ymchwil yn edrych ar sgîl-effeithiau cynhyrchiant o fewnfuddsoddiad, dynodi clystyrau diwydiant rhanbarthol a newid strwythurol tymor hir yn economi Cymru yn cynnwys tablau mewnbwn-allbwn. Mae gan Max hefyd ddiddordeb mewn dangosyddion cynaliadwyedd a thablau mewnbwn-allbwn amgylcheddol. Mae hefyd yn aelod o’r Gymdeithas Astudiaethau Rhanbarthol, y Gymdeithas Wyddoniaeth Ranbarthol ac mae’n ymgynghorydd rhanbarthol ar gyfer Cambridge Econometrics.

Hafan........Cymraeg / English