Dr. Mel Edwards
Mae Dr. Mel Edwards yn ymgynghorydd annibynnol ac yn gyn Bennaeth
Datblygu Economaidd a Thwristiaeth ar gyfer Cyngor Dinas a Sir Abertawe.
Mae ganddo dros 18 mlynedd o brofiad uwch reoli a chynllunio strategol, a chymerodd ran mewn amrediad eang o brosiectau adfywio, datblygu busnes a marchnata. Mae ganddo brofiad helaeth mewn datblygu strategaeth lleol ac isranbarthol a bu’n Gynghorydd ar Faterion Ewropeaidd i Gymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru.
Gweithiodd Mel ar Strategaeth Twf Economaidd a Fframwaith Gweithgareddau Cydgyfeiriad Sir Ddinbych, ac mae’n gweithio gydag Old Bell 3 ar Strategaeth Datblygu Gofodol Gogledd Orllewin Cymru. Mae hefyd wedi cynnal nifer o werthusiadau rhaglen ac adolygiadau busnes ar ran Asiantaethau Datblygu Rhanbarthol ac Awdurdodau Lleol yn Lloegr a Chymru.
Bu Mel yn aelod o fwrdd Cyswllt Busnes Cymru, Partneriaeth Strategaeth Asedau Busnes Amcan 1 a Gr?p Strategaeth Arloesedd/Ymchwil a Datblygu Ganolog 1.
Bu ganddo ran flaenllaw yn sefydlu Cynllun Hawliau Eiddo Deallusol Abertawe, rhagflaenydd ED Cymru, a bu’n ymwneud â datblygu rhwydwaith Technium o’r cychwyn cyntaf.
