Associates

Miller Research Cyf

www.miller-research.co.uk

Mae Miller Research (UK) Cyf yn gwmni ymchwil, gwerthuso a datblygu ymgynghori arbenigol yn canolbwyntio ar brosiectau yn gysylltiedig â’r agenda dysgu, sgiliau, marchnad llafur ac adfywio cymunedol ehangach.

Wedi’i sefydlu yn Ne Ddwyrain Cymru yn 1995, mae Miller Research yn darparu datrysiadau blaengar i gleientiaid ledled y DU, drwy gymhwyso technegau a thechnolegau newydd i ddynesiadau ymchwil sefydledig, yn aml yn gweithio wrth ochr ymgynghorwyr eraill fel Old Bell 3.

Gan anelu creu perthynas waith tymor-hir lle bynnag y bo’n bosibl, mae’r prosiectau yn dangos lefelau cyson uchel o foddhad cwsmeriaid a gweithredu canfyddiadau ymchwil i bolisi a rhaglenni ymarferol. Mae meysydd datblygu diweddar wedi cynnwys ymgynghoriadau ac arolygon ar y we, mapio GIS o ddata lleoliadol a throsi ystadegau swyddogol yn wybodaeth hygyrch ar y we.

Nick Miller BSc MBA, yw Cyfarwyddwr Miller Research

nick@miller-research.co.uk

Mae Nick yn Ymgynghorydd Ymchwil Economaidd profiadol iawn gydag arbenigedd amlwg mewn dadansoddiad meintiol ac ansoddol o economïau lleol a rhanbarthol, ymchwil sectoraidd a materion sgiliau. Mae ganddo wybodaeth a phrofiad helaeth o’r cyd-destun dysgu a sgiliau ym Mhrydain, a chynhaliodd brosiectau ar gyfer ELWa, LSC, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Cynghorau Sgiliau Sector, CCET ac Awdurdod Datblygu Cymru.

Sefydlwyd Miller Research gan Nick yn 1995, yn dilyn gyrfa flaenorol mewn dosbarthu cyfanwerthu a chyfnod fel ymchwilydd gydag Uned Ymchwil Economi Cymru yn Ysgol Fusnes Caerdydd.

 

Hafan.........Cymraeg / English