Nia Bryer
nia@oldbell3.co.uk
Cefndir
Y mae Nia yn rheolwr prosiect ac ymgynghorydd profiadol gyda dros deng mlynedd o brofiad mewn rolau hŷn yn cwmpasu cyfrifoldebau polisi, strategaeth a darpariaeth. Wedi gweithio yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, y mae gan Nia gefndir ymgynghori cryf ac y mae wedi arwain ystod eang o gomisiynau ymchwil dros gleientiaid o fewn Cymru.
Cyn ymuno ag Old Bell 3 ym mis Mawrth 2007 yr oedd Nia yn Rheolwr Prosiect gyda’r WDA ac yn fwy diweddar gyda Llywodraeth y Cynulliad. Yr oedd hi’n gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno dau brosiect Cefnogaeth Menter uchelgeisiol, sef Potentia a Menter Merched Cymru. Roedd y rhaglenni Cymru gyfan hyn yn ffocysu ar gydraddoldeb ac amrywiaeth, gan gefnogi’n weithredol cleientiaid o grwpiau penodol a dan-gynrychiolir gan gynnwys grwpiau lleiafrifol ethnig, pobl ifanc, rhai dros 50, siaradwyr Cymraeg a phobl anabl.
Cyn ymuno â’r WDA, yr oedd Nia’n un o aelodau’r tim a sefydlodd Newidiem, ymgynghoriaeth Polisi a Strategaeth wedi ei lleoli yng Nghaerdydd. Tra gyda Newidiem, ymgymerodd Nia â phrosiectau ymgynghorol i nifer o sefydliadau cyhoeddus a phreifat yn cynnwys Llywodraeth y Cynulliad, ELWa, WDA, Bwrdd Twristiaeth Cymru, amrywiol Awdurdodau Lleol a nifer o grwpiau LEADER yng Nghymru. Y mae Nia yn siaradwraig Cymraeg iaith gyntaf ac yn Llywodraethwr yn Ysgol Nantgaredig, Sir Gaerfyrddin.
Addysg
Y mae Nia yn meddu ar radd mewn Daearyddiaeth (BSc Econ) o Brifysgol Abertawe.
Profiad Ymgynghori
Y mae profiad ymgynghori Nia yn cynnwys ystod o werthusiadau prosiect ffurfiannol a chyfansymiol a chomisiynau ymchwil. Y mae wedi gweithio i nifer o Adrannau Llywodraeth y Cynulliad, yn cynnwys Adran Iawnderau Dynol a Chydraddoldeb, Adran Plant, Addysg a Dysgu Gydol-oes ac Adran Economeg a Thrafnidiaeth yn ogystal â TUC Cymru, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, amryw o Awdurdodau Lleol a cholegau Addysg Bellach. Y mae Nia’n rheoli’n gyson ymchwil mesurol y cwmni (arolygon ar bapur, y we neu dros y ffôn) a’n tîm cartref o weithwyr dwyieithog yn y maes. Hefyd hyfforddwyd Nia i lefel uwch mewn meddalwedd arolwg SNAP.
Y mae’r prosiectau y bu Nia yn gweithio arnynt yn ddiweddar yn cynnwys:
- Astudiaeth Hyd a Lled Academi Gwyddoniaeth i Gymru (APDAGOS)
- Gwerthusiad o’r Rhaglen Twf Uchel (AE&T)
- Gwerthusiad o Rhaglen Cymorth Busnes i Fentrau Cymdeithasol yng Nghymru (Canolfan Cydweithredol Cymru)
- Adolygiad Strategol o SEMTA yng Nghymru (SEMTA)
- Gwerthusiad o rhaglen Accelerate Clusters (AE&T)
- Gwerthusiad o Arsyllfa Bandeang Cymru (AE&T)
- Ymchwil i brifathrawiaeth yng Nghymru (APDAGOS)
- Ymchwil i Integreiddio Cymorth Sgiliau a Chyflogaeth yng Nghymru (BCSC/APGADOS)
- Ymchwil ac Ymgynghori ar Ddarpariaeth Cyllid i Fyfyrwyr yng Nghymru (APDAGOS)
- Gwerthusiad o Brosiectau Cronfa Hyrwyddo Cydraddoldeb (Adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (ACHD) Llywodraeth Cynulliad Cymru);
- Ymchwil i Anghenion a Gofynion Sgiliau Cyflogwyr Diwydiant Gwesty, Hamdden, Teithio a Thwristiaeth (APDAGOS)
- Gwerthusiad o Grantiau Datblygu Busnes (Cyngor Sir Ynys Môn)
- Gwerthusiad hir dymor o’r Rhaglen Datblygu Gweithlu ‘Step Up’ (APDAGOS)
- TUC Cymru (Gwerthusiad o brosiect Cyfartal yn y Gweithle a ariannir gan EQUAL)
- Gwerthusiad Prosiect Estyn Ymlaen (Goleg Sir Gâr a Choleg Sir Benfro)
- Gwerthusiad o Gynllun Bwrsariaeth Tystysgrif Addysg Ôl-radd (TAR/PCET) (APDAGOS)
- Gwerthusiad o Brosiect Addysg Drochi a Dysgu Cymraeg dwys (APDAGOS)
- Gwerthusiad o Rwydwaith Dysgu Sir Gaerfyrddin (Cyngor Sir Gaerfyrddin)
- Gwerthusiad o Raglen Cymraeg i Oedolion (APDAGOS)
- Gwerthusiad o raglen Erthygl 33 gydag Ymchwil Miller (AE&T)
- Gwerthusiad o Strategaeth Sgiliau Sylfaenol i Gymru gydag Ymchwil Miller (APDAGOS)
- Adolygiad o Ddeunyddiadu Ymwybyddiaeth Amrywiaeth Potentia (AE&T)
