Siân Peake-Jones - Open Minds Consulting Cyf.
www.open--minds.co.uk
Mae Siân yn ymgynghorydd datblygu economaidd yn seiliedig yng Ngogledd Cymru, gydag amrediad o sgiliau ond yn arbenigo mewn datblygu sefydliadol, datblygu economaidd cymunedol a datblygu’r farchnad lafur (budd-dal i waith) ar lefel polisi ac ymarferol. Mae gan Siân lawer o brofiad ar lefel uwch ym maes polisi cyhoeddus ac adfywio economaidd fel ymarferydd ac fel ymgynghorydd. Mae ganddi brofiad o ddatblygu datrysiadau adfywio ardal lleol blaengar. Mae hefyd yn Gynghorydd ar Adfywio Cymdogaeth i Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog ac yn Gynghorydd Cyswllt Canolfan Dyfodol Trefol a Rhanbarthol Cynaliadwy Prifysgol Salford.
Mae gan Siân wybodaeth waith dda o faterion datblygu economaidd ar lefel Ewropeaidd, Prydeinig a Chymreig. Yng Nghymru, roedd yn rhan o‘r tîm dan arweiniad Old Bell 3 a gynhaliodd y Gwerthusiad Canol Tymor o raglen Amcan 1 Gorllewin Cymru a’r Cymoedd a bu’n gweithio gydag Old Bell 3 ar astudiaeth o’r cysylltiadau rhwng atal anweithgaredd economaidd a materion eiddo ar gyfer Awdurdod Datblygu Cymru
