Cynigiwn y gwasanaethau dilynol:
- Ymchwil a gwerthuso raglenni a phrosiectau, yn arbennig ym meysydd Datblygu Economaidd, Adfywio Cymunedol, Sgiliau, Cyflogaeth, Datblygu’r Gweithlu ac Hyfforddiant;
- Cyngor ar bob agwedd o’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd;
- Cyngor a chefnogaeth wrth ddatblygu strategaethau, rhaglenni a pholisïau datblygu economaidd;
- Cyngor ar bolisïau llywodraeth a sut i wneud gweithgareddau yn gydnaws â hwy.
Mae’r pwyslais yn bendant ar ymateb manwl gywir a deilwrir yn ofalus ar gyfer pob comisiwn unigol, gyda mewnbwn personol gan aelodau o dîm Old Bell 3 a, fel sy’n addas, ymgynghorwyr cyswllt profiadol iawn.
Cynigiwn:
- Dîm o ymgynghorwyr ymchwil sydd â’i wreiddiau yng Nghymru gyda dealltwriaeth ddiguro o gyd-destun polisi Cymru gan arbenigo mewn Datblygu Economaidd a Chymunedol, Cronfeydd Strwythurol yr UE, Adfywio Cymunedol a Sgiliau a Hyfforddiant;
- Dealltwriaeth gref o amcanion strategol a gweithredol Llywodraeth Cynulliad Cymru a’i phartneriaid;
- Arbenigedd methodoleg gwerthuso helaeth a pherthnasol iawn, yn gysylltiedig â rhaglenni, prosiectau a phrosesau sy’n derbyn arian cyhoeddus;
- Gwybodaeth gyfoes o ddogfennau polisi a strategaeth bresennol a newydd sy’n berthnasol yng Nghymru ac yn fwy eang yn y Deyrnas Unedig;
- Y gallu i ddatblygu offerynnau ymchwil, ysgrifennu adroddiadau a chynnal gwaith maes dwyieithog (mae dau o staff Old Bell 3 yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf);
- Profiad helaeth o gynnal gwaith maes ymchwil meintiol ac ansoddol gan gynnwys dros y ffon, y we neu ar bapur a dyluniwyd, rheolwyd a’i gweithredwyd gan dîm mewnol;
- Profiad helaeth o gynnal ymgynghori gyda buddiolwyr prosiect (unigolion a chyflogwyr), staff gweithredol, aelodau staff gweithredol a gyda cynllunwyr polisi strategol (dros y ffôn, mewn cyfweliadau wyneb i wyneb a thrwy grwpiau ffocws);
- Y gallu i ddefnyddio rhwydwaith o ymgynghorwyr cyswllt yr ydym wedi gweithio’n helaeth â hwy i ateb anghenion arbenigol cleientiaid;
- Profiad helaeth yn hwyluso cyfarfodydd (e.e. cynllunio strategol ne sesiynau datblygu);
- Sicrwydd y cynhelir yr ymchwil gan unigolion profiadol iawn, yn hytrach nag ymgynghorwyr iau.
