Welcome

Gareth Williams - Rheolwr Gyfarwyddwr

gareth@oldbell3.co.uk

Gareth WilliamsCefndir

Y mae Gareth  wedi  rhedeg  Old Bell 3 ers wyth mlynedd, gan ymgymryd ag ystod eang o werthusiadau ac aseiniadau ymgynghorol dros gleientiaid gan gynnwys Swyddfa Ariannu Ewropeaidd Cymru (WEFO), amryw o Adrannau Llywodraeth Cynulliad Cymru (gan gynnwys yr  Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (DCELLS), Cyfiawnder Cymdeithasol a Menter a Thrafnidiaeth), Rhwydwaith Sgiliau Busnes, nifer o Gyrff Hyfforddi Cenedlaethol/SSCs, Canolfan Byd Gwaith, Uned Partneriaid Cymdeithasol Cymru, Cyngor Cymru dros Weithredu Gwirfoddol, Rhwydwaith Cefnogaeth Cymunedau’n Gyntaf a nifer o awdurdodau lleol yng Nghymru.

Cyn sefydlu Old Bell 3, bu Gareth yn gweithio fel Gwas Sifil yn y Senedd Brydeinig ac Ewropeaidd, Pennaeth Materion Rhyngwladol ac Ewropeaidd Cyngor Dinas Birmingham, Cyd-gyfarwyddwr cwmni Ymgynghori ac Ymchwil ECOTEC Cyf. ac fel Prif Gynghorwr Arbennig i Alun Michael fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac fel Ysgrifennydd Cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Addysg

Y mae Gareth yn meddu ar radd dosbarth cyntaf o Brifysgol Caergrawnt ac y mae’n aelod o’r Sefydliad Datblygiad Economaidd a Chymdeithas Werthuso’r DU.

Profiad Ymgynghori

Mae Gareth wedi arwain ystod eang iawn o brosiectau ymchwil a gwerthuso yng Nghymru yn ymwneud ag ariannu Ewropeaidd, dysgu a sgiliau, y farchnad waith, a datblygu economaidd.  Y mae ganddo brofiad eang iawn o ymgymryd â gwerthusiadau phrosiectau a rhaglenni Ewropeaidd gan gynnwys rheoli gwerthusiad Canol Dymor a Diweddariadau Canol Dymor  Rhaglen  Amcan Un Gorllewin Cymru a’r Cymoedd ac y mae hefyd wedi ymgymryd â nifer o brosiectau diweddar i APDAGOS yn cynnwys gwaith ar Adolygiad Leitch.  Y mae Gareth hefyd wedi darparu cyngor strategol cyfredol i’r Rhwydwaith Sgiliau Busnes/ Asiantaeth Ddatblygu Sgilau Sector yng Nghymru o 2005 hyd 2008.

Y mae’r prosiectau y bu Gareth yn gweithio arnynt yn ddiweddar yn cynnwys:

  • Astudiaeth ymchwil i effeithiau’r dirwasgiad ar draws Cymru a ffyrdd y gall awdurdodau lleol gefnogi adferiad economaidd cynaliadwy (CLlLC)
  • Paratoi Adroddiad Blynyddol cyntaf Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru (BCSC ac APDAGOS)
  • Ymchwil i Integreiddio Cymorth Sgiliau a Chyflogaeth yng Nghymru (BCSC/APGADOS)
  • Gwerthusiad o Rhaglen Cymorth Busnes i Fentrau Cymdeithasol yng Nghymru (Canolfan Cydweithredol Cymru)
  •  Asesiad ‘ex post’ o ail rownd Rhaglen Datblygu Cymunedol ‘URBAN II’ – mae Gareth yn arwain ar werthusiad o rhaglen URBACT (Adran ‘DG Regio’ y Comisiwn Ewropeaidd)
  • Gwerthusiad o Brosiectau Cronfa Hyrwyddo Cydraddoldeb (Adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (ACHD) Llywodraeth Cynulliad Cymru)
  • Gwerthusiad ‘ymbarel’ o brosiectau Cronfeydd Ewropeaidd gorffenedig yng Nghymru (WEFO)
  • Gwerthusiad ex ante Rhaglen Gydweithrediad Tiriogaethol Iwerddon-Cymru (gyda chwmni Cysylltiedig Fitzpatrick, Dulyn)
  • Ymchwil i Ddarpariaeth Ariannol Myfyrwyr yng Nghymru gyda chwmni Ymgynghorol York (APDAGOS)
  • Datblygiad Strategaeth Ddatblygu Gofodol Gogledd Orllewin Cymru (i Lywodraeth y Cynulliad, Cynghorau Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy.)
  • Gwerthusiad o Gynllun Bwrsariaeth TAR/PCET (APDAGOS)
  • Gwerthusiad o brosiectau Camu i Fyny a phrosiectau peilot perthnasol (APDAGOS)
  • Gwerthusiad o Adeiladu’r Gymdeithas sy’n Dysgu (WEA)
  • Gwerthusiad o Gynllun E-ddysgu a  Datblygu Sgilau TGCh (APDAGOS)
  • Gwerthusiad o Raglen Gymunedau yn Un (cyfredol i’r Adran Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol)
  • Gwerthusiad o’r Strategaeth Sgilau Sylfaenol Cymru gyda Ymchwil Miller (APDAGOS)

 

Hafan........Cymraeg / English